Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

The obituary notice of Gwenda D. WILLIAMS

Ruthin (Rhuthun) | Published in: Daily Post.

Dowell Brothers
Dowell Brothers
Visit Page
Change notice background image
Gwenda D.WILLIAMSRhagfyr 8fed, 2025, yng Nghartref Bron Afallen, Cerrigydrudion (gynt o Fron Segur, Pwllglas), yn dawel yng nghwmni ei theulu, bu farw yn 92 mlwydd oed.

Priod annwyl a gofalus y diweddar Ogwen, mam arbennig Huw, Iona a'r diweddar Alun a mam yng nghyfraith garedig Eirwyn ac Ella, nain falch Dylan a Gwawr, Llinos a Tudur, Ian a Llio, Sioned a Josh a hen nain annwyl.

Cynhelir gwasanaeth o ddiolch am ei bywyd yng Nghapel y Rhiw, Pwllglas, ddydd Mawrth, Ionawr 27ain am 1.30 o'r gloch.

Os dymunir, derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof tuag at Ymchwil Canser Cymru a Chronfa Mynwent Capel y Rhiw.

Trefniadau Gan

Y Brodyr Dowell, Rhuthun
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwenda
1026 visitors
|
Published: 17/01/2026
3 Potentially related notices
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
3 Tributes added for Gwenda
Report a tribute
Add your own tribute
Add Tribute
Donation left by Gwenan Dodd
17/01/2026
Comment
Donation left by Gwenan Dodd
17/01/2026
Comment
Heddiw, daw pennill gyntaf Beth Yw Bywyd, cerdd i ddeuawd gan Ann Eleri Richards a Delyth Haf Rees i'm meddwl. Mae'r geiriau yn pwysleisio'r gwerth o 'rannu' gyda'n gilydd.

Beth yw bywyd heb ei rannu,
gyda chyfaill gyda chân.
Nid yw'n ddim, dim ond bodoli.
Pawb a'i filltir sgwar.

Rhannodd y ddiweddar annwyl Gwenda Williams ei dawn fel cyfeilydd a chyfansoddwraig hynod fedrus yn hael iawn yn ei milltir sgwâr a chyda'r genedl hefyd. Mae ei gwaddol yn aros mewn nifer o ffyrdd, yn arbennig cyfansoddi tonau i ganeuon ac emynau gan gipio'r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth cyfansoddi tôn i emyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn gyn-gyfeilydd i Meibion Menlli a Thriawd Menlli. Un o'm hoff ganeuon gan y triawd yw'r sengl hyfryd 'Ffrindiau' glywn yn amal ar nos Sul ar raglen radio Rhys Meirion Ar Eich Cais.

Diolch Gwenda.
Cwsg Mewn Hedd🙏🏻
Eifion Wynne
17/01/2026
Comment
Next
Elizabeth Mary SMITH